(English)
Dydd Mercher 25 Mai 2022, o 11:15 tan 13:30
Voco Gwesty Dewi Sant, Bae Caerdydd
Ymunwch â Ufi a rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru i ymchwilio i’r ffordd y gall technoleg ddigidol drawsnewid sgiliau ar gyfer gwaith a chlywed sut mae Ufi yn cynorthwyo sefydliadau i fwrw ymlaen i’w datblygu a manteisio arni.
"Mae’n rhaid i Gymru fod yn barod at y dyfodol. Byddwn yn paratoi fel cenedl heddiw i fodloni gofynion sgiliau yfory, er mwyn gallu manteisio’n llawn ar ddatblygiadau technolegol. Mae Cymru’n genedl ddeinamig ac arloesol, sydd eisoes ar flaen y gad o ran technolegau newydd, ac wedi ymrwymo i aros yno.”
Digidol 2030: Fframwaith strategol ar gyfer dysgu digidol ôl-16 yng Nghymru.
Llywodraeth Cymru.
Rhaglen
11:15 - Croeso a chyflwyniad i Ufi VocTech Trust
11:30 - Trafodaeth Banel
Cyflymu’r broses o fabwysiadu technolegau digidol mewn addysg alwedigaethol yng Nghymru
12:15 - Arddangos a chinio rhwydweithio
Cyfarfod â rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru a rhoi cynnig ar rai o’r datrysiadau digidol sydd wedi cael eu datblygu gyda chymorth Ufi
13:30 - Diwedd
---------
Trafodaeth Banel
Cyflymu’r broses o fabwysiadu technoleg ddigidol ym maes dysgu oedolion yng Nghymru
Mae natur gwaith yn newid ac felly hefyd natur dysgu galwedigaethol i oedolion. Yn Ufi VocTech Trust, rydym yn rhannu uchelgais Llywodraeth Cymru i integreiddio technoleg ddigidol ar draws addysg a hyfforddiant ôl-16. Ymunwch â ni i drafod y cynnydd tuag at yr uchelgais hwn a beth arall y gellir ei wneud i gyflymu’r cynnydd.
Wrth ryddhau fframwaith Digidol 2030, gosododd Llywodraeth Cymru feincnod clir: trawsnewid dysgu trwy integreiddio technoleg ddigidol yn ddi-dor ar draws addysg ôl-16. Mae Ufi yn rhannu’r gred bod gan system dysgu oedolion a alluogir gan dechnoleg y potensial i wella sgiliau a’r economi, er budd unigolion, cyflogwyr a’r gymdeithas gyfan. Bydd y sesiwn hon yn edrych ar sut mae’r trawsnewid yn datblygu ac yn gofyn:
- Beth a ddysgwyd o’r daith hyd yma a sut allwn ni gyflymu’r newid?
- Sut mae addysgwyr a darparwyr hyfforddiant yn paratoi ar gyfer dulliau newydd o ddysgu ac addysgu?
- Allwn ni gynyddu datrysiadau, offer a thechnegau sy’n gweithio?
Ein panelwyr yw:
- Louise Rowland, Dirprwy Brif Weithredwr, Ufi VocTech Trust (Cadeirydd);
- Jeff Greenidge, Cyfarwyddwr Amrywiaeth, Cymdeithas y Colegau;
- Alyson Nicholson, Pennaeth JISC Cymru; a
- Neil Tamplin, Rheolwr Gyfarwyddwr, Aspiration Training
---------
Os ydych chi’n ymwneud â gwella sgiliau ar gyfer gwaith – boed mewn cymuned, ym maes llywodraeth leol, lleoliad addysg neu fusnes – gobeithio y byddwch yn ymuno â ni i greu cysylltiadau newydd, cryfhau perthnasoedd sy’n bodoli eisoes ac archwilio’r cyllid a’r arbenigedd y gall Ufi eu cynnig i wella sgiliau ar gyfer gwaith ledled Cymru.
Edrychwn ymlaen at gyfarfod â chi.
Rebecca Garrod-Waters
Prif Swyddog Gweithredol, Ufi VocTech Trust