Harneisio potensial technoleg ddigidol i ddiwallu gofynion sgiliau’r dyfodol

Mewnwelediad, cyllid a chymorth gan Ufi VocTech Trust

Cardiff millennium centre

Dydd Mercher 25 Mai 2022, o 11:15 tan 13:30

Voco Gwesty Dewi Sant, Bae Caerdydd

Ymunwch â Ufi a rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru i ymchwilio i’r ffordd y gall technoleg ddigidol drawsnewid sgiliau ar gyfer gwaith a chlywed sut mae Ufi yn cynorthwyo sefydliadau i fwrw ymlaen i’w datblygu a manteisio arni.

“Mae’n rhaid i Gymru fod yn barod at y dyfodol. Byddwn yn paratoi fel cenedl heddiw i fodloni gofynion sgiliau yfory, er mwyn gallu manteisio’n llawn ar ddatblygiadau technolegol. Mae Cymru’n genedl ddeinamig ac arloesol, sydd eisoes ar flaen y gad o ran technolegau newydd, ac wedi ymrwymo i aros yno.”

  • Digidol 2030: Fframwaith strategol ar gyfer dysgu digidol ôl-16 yng Nghymru. Llywodraeth Cymru.

Rhaglen

11:15 – Croeso a chyflwyniad i Ufi VocTech Trust

11:30 – Trafodaeth Banel

Cyflymu’r broses o fabwysiadu technolegau digidol mewn addysg alwedigaethol yng Nghymru

12:15 – Arddangos a chinio rhwydweithio

Cyfarfod â rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru a rhoi cynnig ar rai o’r datrysiadau digidol sydd wedi cael eu datblygu gyda chymorth Ufi

13:30 – Diwedd

—–

Trafodaeth Banel

Cyflymu’r broses o fabwysiadu technoleg ddigidol ym maes dysgu oedolion yng Nghymru

Mae natur gwaith yn newid ac felly hefyd natur dysgu galwedigaethol i oedolion. Yn Ufi VocTech Trust, rydym yn rhannu uchelgais Llywodraeth Cymru i integreiddio technoleg ddigidol ar draws addysg a hyfforddiant ôl-16. Ymunwch â ni i drafod y cynnydd tuag at yr uchelgais hwn a beth arall y gellir ei wneud i gyflymu’r cynnydd.

Wrth ryddhau fframwaith Digidol 2030, gosododd Llywodraeth Cymru feincnod clir: trawsnewid dysgu trwy integreiddio technoleg ddigidol yn ddi-dor ar draws addysg ôl-16. Mae Ufi yn rhannu’r gred bod gan system dysgu oedolion a alluogir gan dechnoleg y potensial i wella sgiliau a’r economi, er budd unigolion, cyflogwyr a’r gymdeithas gyfan. Bydd y sesiwn hon yn edrych ar sut mae’r trawsnewid yn datblygu ac yn gofyn:

  • What has been learnt from the journey so far and how can we accelerate the pace of change?
  • How are educators and training providers preparing for new modes of teaching and learning?
  • Can we scale solutions, tools and techniques that work?

Our panellists are:

  • Louise Rowland, Dirprwy Brif Weithredwr, Ufi VocTech Trust (Cadeirydd);
  • Jeff Greenidge, Cyfarwyddwr Amrywiaeth, Cymdeithas y Colegau;
  • Alyson Nicholson, Pennaeth JISC Cymru; a
  • Neil Tamplin, Rheolwr Gyfarwyddwr, Aspiration Training

———

Os ydych chi’n ymwneud â gwella sgiliau ar gyfer gwaith – boed mewn cymuned, ym maes llywodraeth leol, lleoliad addysg neu fusnes – gobeithio y byddwch yn ymuno â ni i greu cysylltiadau newydd, cryfhau perthnasoedd sy’n bodoli eisoes ac archwilio’r cyllid a’r arbenigedd y gall Ufi eu cynnig i wella sgiliau ar gyfer gwaith ledled Cymru.

Edrychwn ymlaen at gyfarfod â chi.

Rebecca Garrod-Waters
Prif Swyddog Gweithredol, Ufi VocTech Trust

Mae’r digwyddiad hwn wedi dod i ben. Cysylltwch os hoffech ddarganfod mwy.

Ynghylch Ufi VocTech Trust

Mae Ufi yn credu’n angerddol ym mhŵer technoleg ddigidol i helpu pobl i gael a chadw’r sgiliau mae eu hangen arnynt ar gyfer gwaith. Yr enw a roddwn ar y technolegau hyn yw VocTech (Technoleg Alwedigaethol), ac rydym yn cynorthwyo â’r gwaith o’u datblygu trwy arian grant, buddsoddiadau menter ac eiriolaeth.

Hyd yn hyn mae Ufi wedi cefnogi dros 240 o brosiectau, wedi dyfarnu mwy na £23 miliwn o arian grant ac wedi buddsoddi £3 miliwn mewn cychwyn busnesau sy’n cyd-fynd â’i chenhadaeth.

Mae ein cronfa grantiau sydd yn yr arfaeth, VocTech Seed, yn agor ar 15 Mehefin ar gyfer grantiau gwerth rhwng £15,000 a £50,000.